Mae ein hymchwil wedi dangos bod toriadau olynol i’r budd-dal hwn yn golygu bod 94% o ardaloedd ym Mhrydain, un ym mhob pump neu llai o gartrefi rhent yn anfforddiadwy o dan gyfraddau Lwfans Tai Lleol i bobl sengl, cyplau neu deuluoedd bach sydd angen budd-dal tai. Mewnbynnwch eich côd post i ddarganfod pa mor fforddiadwy yw eich ardal:
Gweithredwch nawr
Eisiau cael gwybod mwy?
Oes gennych chi brofiad o’r broblem hon?
Llwythwch ein papur gwybodaeth am yr ymgyrch i lawr
Pan fo pobl yn ei chael hi’n anodd, mae'n cael effaith ar ein cymdeithas gyfan. Ac ar hyn o bryd, mae pobl y mae angen cymorth arnynt yn cael eu gorfodi i fod yn ddigartref.
Mae Nicole yn cael trafferth gyda’i hiechyd corfforol a meddyliol. Fel nifer o rai eraill, mae Rachel yn derbyn budd-dal tai i’w helpu i dalu ei rhent gan fod prinder difrifol o dai cymdeithasol mwy fforddiadwy – ond mae’r cymorth ariannol hanfodol hwn yn brin o £300 y mis i dalu ei rhent. Mae'n poeni y bydd ei bywyd yn chwalu os bydd yn colli ei fflat.
Fel Nicole, mae miloedd o eraill y mae angen y cymorth hwn arnynt yn cael trafferth fawr talu eu rhent, ar ben ceisio talu costau bwyd a biliau. I nifer o bobl, mae’r pwysau cyson yn ormod ac maent yn colli eu cartrefi.
Pe bai Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn budd-dal tai, fel ei fod yn cynnwys y traean rhataf yn unig o renti preifat, gallai atal miloedd o bobl fel Nicole rhag mynd yn ddigartref. Gallai hefyd godi miloedd mwy, yn cynnwys dros 35,000 o blant, allan o dlodi.
Ond heb weithredu, bydd nifer y bobl sy’n profi’r mathau gwaethaf o ddigartrefedd yn dyblu a mwy yn y ddau ddegawd nesaf. Nes bydd digon o gartrefi gwirioneddol fforddiadwy’n cael eu hadeiladu, rhaid i fudd-dal tai dal fod yn ddigon i dalu cost rhent.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn penderfynu ar ei flaenoriaethau gwario ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Gall ASau drwy Gymru, Lloegr, a’r Alban ddylanwadu ar eu penderfyniadau. A gwaith eich AS yw gwrando arnoch.
Wnewch chi ysgrifennu at eich AS i ofyn iddo/iddi alw am fudd-dal tai sy’n ddigon i dalu cost rhent?