Os ydych yn ddigartref, wedi bod yn ddigartref yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf neu mewn perygl o fod yn ddigartref, gallwn ni eich helpu chi.
I ni, golyga digartref cysgu ar y stryd neu fyw mewn hostel, lloches neu noddfa. Mae hefyd yn golygu byw mewn tai â chymorth gan eich bod chi wedi bod yn ddigartref, syrffio soffa neu’n byw gyda theulu/ffrindiau gan nad oes gennych unman arall i fynd. A gallai olygu byw mewn Gwely a Brecwast, sgwat neu unrhyw lety dros dro arall.
Beth rydym yn cynnig
- Dysgu, addysg a hyfforddi sgiliau
- Dod o hyd i waith ac ymgeisio am swyddi
- Dod o hyd i gartref ac ymgartrefu’n dda
- Gofalu am eich iechyd a’ch lles
- Gwirfoddoli a chwrdd â phobl newydd.
Cymerwch olwg ar yr amserlen am wybodaeth am ein dosbarthiadau.
Cysylltwch â ni
Os hoffech ddarganfod rhagor, neu os ydych yn weithiwr cymorth a hoffech gyfeirio rhywun, gallwch gysylltu â ni drwy gwblhau’r ffurflen isod a byddwch yn clywed gennym o fewn dau ddiwrnod gwaith.